Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 llun sesiwn flasu

patrwm dotiauO’r chwith: Hannah Schafer, Asha Ghowry, Elizabeth Boswell,
James Taylor, Natasha Tame, Islwyn Edwards (tiwtor),
Brooke Dubois, Janet Gwenllian Jones.

Pan gafodd popeth ymhob man ei ganslo oherwydd y tywydd, aeth y sioe yn ei blaen yn Aberystwyth! Daeth bron i 40 o bobl i’r Ysgol Ionawr i ddysgu Cymraeg, gan gynnwys y grŵp yn y llun. Dyma’r rhai oedd wedi dod i flasu ychydig o Gymraeg a weiniwyd gan Islwyn Edwards, un o diwtoriaid Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru.


‘Dw i mor falch fy mod wedi penderfynu dod i’r sesiwn flasu. Roedd yn ddiwrnod gwych,’ meddai Brooke Dubois.

logo niaceTrefnwyd y diwrnod gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion. Roedd y sesiwn flasu wedi’i hariannu gan NIACE/ESF fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cynullian Cymru, Yn Eich Dwylo Chi/Cymryd y Llyw. Nod yr ymgyrch oedd i annog pobl i ddysgu sgil newydd.  Rydym yn falch o ddweud bod rhai o’r myfyrywr wedi cofrestru ar gyrsiau Cymraeg wythnosol newydd y tymor hwn.


Am fwy o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg ar bob lefel, sef o ddechreuwyr hyd at gyrsiau i Gymry Gymraeg sydd am wella eu sgiliau ysgrifennu, cysylltwch â ni ar 0800 876 6975   cymraegioedolion@aber.ac.uk  www.dysgucymraegynycanolbarth.org


Gweithgaredd i’r teulu cyfan

  Gweithgaredd i’r teulu cyfanCafwyd llawer o hwyl yn gwneud cardiau Nadolig gyda Bethan o Abercardabra, Aberystwyth. Trefnwyd y gweithdy gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru ar gyfer dysgwyr y Ganolfan a’u cyfeillion o Gymry Cymraeg. Roedd y noson wedi troi’n noson i’r teulu cyfan. Roedd rhai o’r oedolion a’r plant yn ddysgwyr gydag eraill yn siaradwyr iaith gyntaf. Cyfle i bawb helpu ei gilydd gyda’r gwaith llaw a’r iaith mewn sesiwn hwyliog!

Ac mae mwy o sesiynau ar y gweill hefyd:

Am fwy o wybodaeth am holl weithgareddau’r Ganolfan
ac i archebu lle cysylltwch â ni ar 0800 876 6975  
cymraegioedolion@aber.ac.uk  www.dysgucymraegynycanolbarth.org

llinell